Negeseuon pwerus sy’n cynnig gwerth, ansawdd, unigrywiaeth a phrofiad yw ffocws ein gwaith yma yn phd
Sefydlwyd y cwmni wyth mlynedd yn ôl ac, oherwydd hynny, rydym yn unigolion profiadol, creadigol sy’n deall sut i gyflwyno neges drwy iaith ddylunio. Yn aml, nid yw cyswllt busnes yn bersonol ond ar bapur ac mae’n rhaid i’r argraff gyntaf hanfodol nid yn unig ddal y dychymyg ond hefyd hysbysu a chyflwyno eich neges yn gyflym ac yn gofiadwy.
Mae ein hymagwedd hyblyg, integredig yn cynnwys popeth o hysbysebion papur newydd i ddylunio pamffled a logo, post uniongyrchol, hunaniaeth gorfforaethol a mwy. Rydym yn delio â phob agwedd yn fewnol sy’n symleiddio’r gwaith ac yn gwneud yr holl broses yn fwy cost-effeithiol.
Ni wneir unrhyw waith gwirion... dim ond dylunio o safon uchel
Mae dylunio’n iaith. Mae’n cyfieithu’r broses greadigol yn iaith gyffredin y gall pobl ei deall ac uniaethu â hi. Er mwyn siarad â phobl, mae iaith ddylunio’n defnyddio geiriau, ffurf a lliw. Mae’r iaith yn fyd-eang ac mae’n siarad â phobl drwy eu holl synhwyrau. Mae dylunio’n ymestyn allan ac yn cyffwrdd â phobl, eich cwsmeriaid, eich cynulleidfa. Mae phd yn gwmni ifanc gyda chreadigrwydd yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym yn creu dyluniadau pwerus, cofiadwy, deniadol, trawiadol ond ni fyddwn byth yn anghofio mai’r elfen ddynol yw’r rhan bwysicaf o’r hafaliad dylunio.
|