"Mae cwmni Dylunio Paul Hewitt wedi creu logo i ni sydd erbyn hyn yn frand cenedlaethol, ac sy’n eistedd yn gyfforddus ochr yn ochr â brandiau byd-eang fel y Dti a’r Sunday Times. Mae’r logo ei hun wedi derbyn cymeradwyaeth uchel gan asiantaethau hysbysebu byd-eang a bydd yn helpu ein sefydliad i fod yn frand rhyngwladol cydnabyddedig.”
Jonathan Austin / Prif Weithredwr
Best Companies Ltd |
|
"Mae Paul Hewitt wedi gwneud llawer o waith i’r Adran Datblygu Economaidd dros y 2 flynedd ddiwethaf. Maen nhw wedi cynhyrchu nifer o Daflenni Newyddion Ewropeaidd a phamffledi ac yn fwy diweddar ein Pamffled ar gyfer Canol y Dref “Wyneb Cyfnewidiol Wrecsam” sy’n hybu datblygiadau pwysig o fewn canol y dref.
Mae PHD yn hynod o broffesiynol ac yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar gyflawni gwaith o’r ansawdd gorau i’r safonau uchaf. Mae eu prisiau’n gystadleuol ac maen nhw bob amser yn cyflenwi’n brydlon. Bum yn hapus iawn gyda’r holl waith y maen nhw wedi’i gynhyrchu a byddaf yn parhau i weithio’n agos gyda Dylunio Paul Hewitt yn y dyfodol."
Catherine Pritchard / Swyddog Prosiect
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam |